Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Saesneg yn unig) yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal arolwg o’r ymgeiswyr a’r cynghorwyr etholedig yn ystod pob etholiad lleol cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr am brif gynghorau (siroedd neu fwrdeistrefi sirol) ac ymgeiswyr am gynghorau tref a chymuned.

Diben yr arolwg yw deall, dros amser, proffil demograffig ymgeiswyr etholiad, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau democrataidd lleol yn gynhwysol a bod cynghorwyr yn gynrychioliadol o’u cymunedau

Arolwg etholiad 2012

Cafodd yr arolwg ei gynnal yn gyntaf yn dilyn etholiadau lleol 2012.

Canlyniadau arolwg etholiadau lleol Cymru (2012)

Arolwg etholiad 2017

Caiff arolwg 2017 ei gynnal yn ystod y broses enwebu am yr etholiad. Mae Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru (Uned Ddata Cymru) wedi cael ei chomisiynu i gynnal yr arolwg ar ran awdurdodau lleol.

Am ragor o wybodaeth am sut y caiff data’r arolwg ei ddefnyddio, gweler Cyfrinachedd data. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, edrychwch ar y dudalen Cwestiynau cyffredin neu Cyswllt.

Navigation

Social Media