Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal arolwg o'r ymgeiswyr a'r cynghorwyr etholedig yn ystod pob etholiad lleol cyffredinol.

Mae'r rheoliadau yn rhoi set benodedig o gwestiynau sy'n cynnwys cwestiynau am broffil demograffig ymgeisydd (rhywedd, oedran, ethnigrwydd ac ati), iechyd, cymwysterau, cyflogaeth a gwaith blaenorol fel cynghorydd. Mae'r arolwg yn ddi-enw ac nid yw’n ofynnol i ymgeiswyr ymateb.

Mae Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru (Uned Ddata Cymru) wedi cael ei chontractio i gynnal yr arolwg ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru. Byddant yn casglu’r data ar ran yr awdurdod lleol ac yn ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru yn unol â’r rheoliadau.

Caiff rhai elfennau o wybodaeth enwebu’r ymgeisydd eu rhannu rhwng yr awdurdod lleol ag Uned Ddata Cymru er mwyn pennu statws pob ymgeisydd yn dilyn yr etholiad. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei storio gydag ymatebion yr arolwg ac ni chaiff ei rhannu â Llywodraeth Cymru. Ni fydd yn ffurfio rhan o’r set ddata at ddibenion dadansoddi nac adrodd.

Caiff yr holl ddata sy’n cael ei gasglu a'u rannu ar gyfer yr arolwg ei drin yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data a dim ond at ddibenion arolwg o ymgeiswyr etholiad lleol y caiff ei ddefnyddio. Mae awdurdodau lleol wedi llofnodi cytundebau rhannu data ag Uned Ddata Cymru sy’n rhoi manylion y broses hon.

Caiff yr wybodaeth a ddarperir yn yr arolwg ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Ni chaiff ei defnyddio mewn modd a fyddai’n galluogi adnabod ymatebion unigol. Caiff data cyfanredol ei adrodd ar lefel awdurdod lleol ac ar lefel Cymru, gan ddefnyddio categorïau eang (e.e. gwryw/benyw, etholedig/anetholedig).

Navigation

Social Media