Gofynnwyd i chi gymryd rhan am eich bod chi'n sefyll i'ch ethol yn Gynghorydd Sir/Bwrdeistref Sirol neu'n Gynghorydd Tref/ Cymuned (neu'r ddau) yn etholiadau lleol Cymru ddydd Iau 4 Mai 2017.

Am fwy o wybodaeth gweler cefndir yr arolwg.

Byddwch yn cael cwestiynau am:

  • a ydych chi wedi sefyll am etholiad neu wedi gwasanaethau fel cynghorydd o’r blaen;
  • eich nodweddion e.e. eich rhywedd, oedran, ethnigrwydd, anabledd, defnydd y Gymraeg; a’ch
  • addysg a chyflogaeth.

Yn ogystal, byddwn yn casglu rhannau o'ch enw, cyfeiriad post a'ch dyddiad geni. Bydd yr wybodaeth hon yn gadael i ni modi pwy gafodd ei ethol yn dilyn yr etholiad. Ni chaiff yr wybodaeth hon ei rhannu â Llywodraeth Cymru ac ni fydd yn ffurfio rhan o'r dadansoddiad data nac adroddiadau.

Am fwy o wybodaeth gweler cyfrinachedd data.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) Measure a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 yn gosod dyletswydd ar bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gynnal arolwg o’r holl ymgeiswyr ar lefel cynghorau sir a lefel cynghorau cymuned neu dref yn ystod pob etholiad cyffredin.

Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i fonitro, dros amser, cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr etholiadau, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau democrataidd lleol yn gynhwysol a bod cynghorwyr yn gynrychioliadol o’u cymunedau.

Mae’ch cyfranogiad chi’n bwysig, gan y bydd yn galluogi’ch cyngor i ddeall mwy am ei gynrychiolwyr etholedig ac a ydy digon yn cael ei wneud i ymgysylltu â phobl o bob oedran, amgylchiad a chefndir mewn democratiaeth leol.

Am fwy o wybodaeth gweler cefndir yr arolwg.

Cwmni o lywodraeth leol Cymru ydy Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru (Uned Ddata Cymru) y mae ganddo Fwrdd Cyfarwyddwyr sy’n cael ei ethol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA). Rydym ni’n darparu amrediad o wasanaeth cymorth ym maes dod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol i gyrff gwasanaeth cyhoeddus fel awdurdodau lleol, byrddau gwasanaethau lleol a chyrff trydydd sector.

Mae Uned Ddata Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, WLGA ac Un Llais Cymru i gynnal yr arolwg hwn a’r dadansoddiad o’r canlyniadau. Rydym ni wedi cael ein comisiynu gan eich cyngor sir/bwrdeistref sirol i gynnal arolwg ymgeiswyr etholiad lleol yn 2017 ar eu rhan oherwydd ein profiad a’n harbenigedd yn y maes hwn.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu ewch i’n gwefan www.unedddatacymru.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am yr arolwg cysylltwch ag Uned Ddata Cymru drwy ffonio 029 2090 9500 neu e-bostio arolygon@unedddatacymru.gov.uk.

Nac oes. Er bod eich cyngor sir/bwrdeistref sirol dan rwymedigaeth gyfreithiol i gasglu’r wybodaeth, nid oes rhaid i chi ddarparu ymateb i bob un neu unrhyw un o’r cwestiynau. Serch hynny, po fwyaf o wybodaeth y gallwch chi ei darparu, mwyaf i gyd y byddwch chi’n helpu’ch awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ddeall y bobl sy’n sefyll am etholiadau lleol, er mwyn sicrhau bod y broses yn gynhwysol ac yn ddiduedd.

Mae angen rhoi ateb i rai cwestiynau i helpu i’ch cymryd drwodd i’r cwestiwn priodol nesaf. Yn yr achosion hyn, byddwch chi’n gallu dewis “mae’n well gennyf beidio ag ateb” fel eich ymateb. Bydd hyn yn gadael i chi barhau i’r cwestiwn nesaf.

Caiff yr wybodaeth a rowch chi i Uned Ddata Cymru ei storio’n ddiogel yn unol â’n rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Diogelu Data (1998).

Bydd ffeil ddata yn cael ei rhannu â’ch awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru. Ni fydd hon yn cynnwys unrhyw ran o’r wybodaeth bersonol sy’n cael ei chasglu i bennu pa ymgeiswyr a lwyddodd yn yr etholiad (enw, cod post a dyddiad geni).

Caiff data cyfanredol (er enghraifft, cyfanswm y cynghorwyr sir sy’n wryw neu’n fenyw) eu cyhoeddi mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru o fewn 12 ar ôl yr etholiad. Ni fydd y canlyniadau hyn yn enwi unrhyw atebion unigol.

Am fwy o wybodaeth gweler cyfrinachedd data.

Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau wrth gyrchu’r cwestiynau ar-lein cysylltwch ag Uned Ddata Cymru drwy ffonio 029 2090 9500 neu e-bostio arolygon@unedddatacymru.gov.uk.

Lle bo’n bosibl dylech chi ymateb ar-lein. Mae ond angen i chi gwblhau’r arolwg unwaith, ni waeth faint o seddi rydych chi’n sefyll amdanyn nhw. Cewch chi ddewis cwblhau’r arolwg yn y Gymraeg neu Saesneg.

Os byddai’n well gennych chi gwblhau’r arolwg mewn fformat arall (e.e. ar bapur neu dros y ffôn) neu os oes gennych chi ofynion ychwanegol o ran hygyrchedd (e.e. print bras neu braille) yna cysylltwch ag Uned Ddata Cymru drwy ffonio 029 2090 9500 neu e-bostio arolygon@unedddatacymru.gov.uk.

Cewch. Os byddai’n well gennych chi gwblhau’r arolwg mewn fformat arall (e.e. ar bapur neu dros y ffôn) neu os oes gennych chi ofynion ychwanegol o ran hygyrchedd (e.e. print bras neu braille) yna cysylltwch ag Uned Ddata Cymru drwy ffonio 029 2090 9500 neu e-bostio arolygon@unedddatacymru.gov.uk.

Nac oes. Mae ond angen un ymateb arnon ni i oddi wrth bob ymgeisydd, ni waeth faint o seddi rydych chi’n sefyll amdanyn nhw.

Na ddylech. Os penderfynoch chi beidio â sefyll cyn dychwelyd eich pecyn enwebu, neu os ydych wedi tynnu’ch enwebiad yn ôl ers dychwelyd eich pecyn, peidiwch â chwblhau’r arolwg.

Dim byd. Diolch am roi’ch ymateb. Byddwn ni’n gallu tynnu’ch ymatebion chi o’r arolwg gan nad ydych chi’n ymgeisydd bellach.

Pryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Bydd ond yn cymryd tua 10 munud i roi’ch atebion.

Bydd ond yn cymryd tua 10 munud i roi’ch atebion.

Oes. Mae arnom ni angen i bob ymgeisydd etholiadau 2017 roi eu hymatebion p’un a oedden nhw’n ymgeisydd mewn etholiad blaenorol neu beidio.

InfoBaseCymru

Mae InfoBaseCymru yn cynnig mynediad rhwydd i amrediad eang o wybodaeth ac adnoddau i Gymru. Gallwch chi weld a lawrlwytho data i’ch helpu gyda’ch gwaith.

FyNghyngorLleol

Mae FyNghyngorLleol yn eich helpu chi i ddeall sut mae’ch cyngor chi yn perfformio o’i gymharu â chynghorau eraill ledled Cymru.

Awdurdodau Cymaradwy

Mae ein hoffer awdurdodau cymaradwy yn gadael i chi weithio allan pa awdurdodau yng Nghymru dylech chi fod yn eu defnyddio at ddibenion cymharu drwy adael i chi ddewis un neu fwy o newidynnau.


Cadwch yn gyfoes gyda ein datganiadau data, adnoddau a chyfleoedd drwy ddilyn ein tudalennau Twitter a Facebook:

twitter.com/dataunitwales

www.facebook.com/dataunitwales

Navigation

Social Media